Gwydr Gwyrddach

Datblygiad ffwrnais chwyth y Sefydliad Dur a Metelau ar y cyd â Ciner Glass yn dangos canlyniadau addawol ar gyfer y diwydiant gwydr

Ar draws sector y prifysgolion yng Nghymru, mae cynlluniau Ciner Glass i adeiladu cyfleuster gweithgynhyrchu poteli gwydr ym Mlaenau Gwent yn destun cyffro mawr. Mae’r prosiect yn addo cefnogi’r economi leol a’r economi genedlaethol, gan greu swyddi a chynnig cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi am flynyddoedd i ddod.

 

Diwydiant gweithgynhyrchu’n hanfodol i’r economi ranbarthol

Drwy ei dreftadaeth ddiwydiannol falch, mae gweithgynhyrchu’n chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi’r economi ranbarthol yn ne Cymru, ond mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n cymryd pob cam y gallwn ni i leihau lefel yr allyriadau yn y diwydiant.

Wrth i Ciner Glass ymuno yn nhirwedd ddiwydiannol de Cymru, rydym yn awyddus i archwilio cyfleoedd gyda’r cwmni. Mae’r cwmni’n rhannu ein huchelgais o ran datgarboneiddio. Roeddem yn gwybod y gallem helpu’r cwmni i gyflawni hyn drwy gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynnyrch a phrosesau.

 

Arbenigedd dur yn cefnogi ymchwil i wydr

Rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau â Ciner Glass dros y flwyddyn ddiwethaf ynghylch sut y gallwn ni gefnogi’r cwmni i ddatblygu cynnyrch a phrosesau a chyrraedd y nod o ddatgarboneiddio.
Rydym yn canolbwyntio ar ymchwilio i atebion cynaliadwy ar gyfer y diwydiant dur i helpu i gyfrannu at economi gylchol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio deunyddiau gwastraff o gynnyrch a ailgylchwyd sydd eisoes yn bodoli yn y gadwyn gyflenwi.
Roeddem yn awyddus, felly, i ddatblygu’r ymchwil hon gyda Ciner Glass.

 

Arbed ynni a buddion i’r amgylchedd

Gwnaethom fuddsoddi £30,000 o bunnoedd fel rhan o’n hymchwil, gan brynu ffwrnais sy’n gallu toddi gwydr a deunyddiau fel Calumite, sef cynnyrch gwastraff o’r diwydiant dur trwm sy’n gallu arbed ynni a chynnig buddion amgylcheddol i gynhyrchwyr gwydr, ar dymheredd uchel.
Mae’r Sefydliad Dur a Metelau wedi toddi’r deunydd hwn yn y ffwrnais newydd a chafodd ganlyniadau addawol iawn o ran cynhyrchu gwydr o gynnyrch diwydiannol gwastraff.
Ein nod yw ehangu’r ymchwil hon gyda chefnogaeth Ciner Glass i optimeiddio’r ffordd mae’r cynhyrchion hyn yn cael eu creu i ddatblygu gwydr o safon wrth gefnogi’r economi gylchol.

 

Partneriaeth yn y dyfodol sy’n ystyried dulliau cynaliadwy

Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi Ciner Glass a’n gobaith yw meithrin a datblygu ein cydweithrediad yn y blynyddoedd i ddod, gan sicrhau, unwaith ei fod wedi’i adeiladu, y bydd y gwaith yn parhau i fabwysiadu’r technolegau diweddaraf i gynhyrchu cynnyrch o safon uchel drwy ddulliau cynaliadwy.
Gan ganolbwyntio ar effeithlonrwydd o ran adnoddau a chau’r ddolen lle bynnag y bo’n bosib, gallwn ni helpu’r diwydiant dur i leihau ei effaith ar adnoddau naturiol, arbed ynni, lleihau maint y gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu ac felly leihau ei effaith gyffredinol ar yr amgylchedd, i gyd ar yr un pryd.

 

Cydweithredu â’r diwydiant i greu dyfodol gwyrddach

Mae ymdrechion cydweithredol ymysg rhanddeiliaid lleol yn y diwydiant a’r cadwyni cyflenwi’n hanfodol er mwyn sefydlu fframwaith economi gylchol gadarn.
Drwy gydweithredu, mabwysiadu technolegau arloesol, optimeiddio prosesau a blaenoriaethu natur gylchol, credwn y gallwn ni baratoi’r ffordd i ddyfodol gwyrddach.

 

Cyfrannwr Dr Barrie Goode

Medi 2023

Share this post