• Mae gan Mike Dowd arbenigedd a phrofiad sylweddol ac, yn unigryw, mae’n darparu dadansoddiad llawn o’r canlyniadau gyda dealltwriaeth werthfawr. Rhwng British Steel a Tata Steel, rydym ni wedi gweithio’n agos gyda Mike i ddatblygu rhaglen brofi wedi’i diweddaru er mwyn ail-greu’n well yr amodau mewn ymarfer ffwrnais chwyth fodern gyda chyfraddau cyflwyno glo a chyflwyno nwy uchel. Mae safon y gwaith a’r dadansoddi gan SaMI wedi bod o’r safon uchaf.

    Sylwadau gan Peter Warren, British Steel
  • Mae dealltwriaeth drylwyr Mike Dowd o faes ymwrthedd rhydu arddwysedd uchel wedi galluogi mabwysiadu ystod o feini prawf profi. Dim ond drwy weithio’n agos gyda SaMI fyddai’r profi hwn yn bosibl. Mae hyn wedi rhoi mantais i ni wrth ddeall perfformiad y cynnyrch ar lefel fwy manwl. Rydym ni’n ddiolchgar iawn bod ymagwedd SaMI yn ein galluogi ni fel busnes bach neu ganolig i gael opsiwn i ymchwilio i’r data hyn.

    Sylwadau gan Dr Chris Weirman, Cyfarwyddwr Technoleg, Wall Colmonoy Cyf.