Dr Barrie Goode

Cyfarwyddwr - Ymchwil a Datblygiad Diwydiannol

Fel Doethur mewn Peirianneg a deiliad BEng Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg, mae gan Barrie dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant Dur a Metelau, gan ddal swyddi uwch mewn sawl busnes yn y swyddogaethau technegol a gweithredu, gan gynnwys dur trydanol.

Ymunodd â SaMI yn 2019 ac mae’n gyfrifol am ddatblygu a rheoli perthnasoedd â diwydiant a gosod cyfeiriad ar gyfer y gweithrediadau mewnol i fodloni gofynion ymchwil cwsmeriaid yn effeithiol. Mae hefyd gan Barrie MBA o Brifysgol Warwick ac mae’n Beiriannydd Siartredig ac yn Gymrawd yr IOM3.