Dur yr ugeinfed ganrif ar hugain mewn amgylchedd adeiledig carbon isel

Mae Jo Clarke* yn parhau â’n cyfres am ddyfodol dur ac yn esbonio rôl dur yn ymdrechion y diwydiant adeiladu i fodloni targedau carbon.

 

Dur yr unfed ganrif ar hugain yn y diwydiant adeiladu

Defnyddir dros 50% o ddur y byd yn y diwydiant adeiladu. Mae priodweddau cynhenid dur, megis nerth, amlbwrpasedd, gwytnwch a chyfradd ailgylchu 100%, yn ein galluogi i wella perfformiad amgylcheddol drwy gylch oes gyfan adeiladau.

Oherwydd natur amlbwrpas dur yr unfed ganrif ar hugain, mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer llawer o elfennau gwahanol adeiladau, gan gynnwys rhannau adeileddol, cladin toeon a waliau, gwasanaethau a ffitiadau adeiladau.

Mae manteision niferus dur yn cynnwys ei bwysau cymharol ysgafn o’i gymharu â deunyddiau adeiladu eraill megis concrid, sy’n fanteisiol o ran trafnidiaeth, effeithlonrwydd adnoddau a chydosod, yn ogystal a’i effaith ar y math o sylfeini y bydd eu hangen, a’u hyd a lled.

Mae hyd yn oed yn bosib defnyddio dur yr unfed ganrif ar hugain yn lle concrid mewn sylfeini, a gellir ei ddefnyddio i weithgynhyrchu elfennau adeiladau ysgafn oddi ar y safle. Yn ogystal â lleihau deunyddiau gwastraff, mae gweithgynhyrchu oddi ar y safle yn golygu llai o lafur ar y safle, gan leihau’r costau cysylltiedig a’r carbon sy’n cael ei greu gan weithgareddau ar y safle, ac mae hyn hefyd yn lleihau’r amser adeiladu’n gyffredinol.

 

Dur yr unfed ganrif ar hugain mewn arddangoswyr Adeilad Gweithredol

Oherwydd y lefel uchel o garbon sy’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu dur, mae’n fwyfwy anodd ei ddewis fel deunydd wrth i ni geisio cyflawni targedau carbon. Y newyddion da yw bod ffyrdd o leihau ôl troed carbon dur ac mae ffyrdd carbon isel o gynhyrchu dur eisoes yn cael eu datblygu.

Mae ein harddangoswyr Adeilad Gweithredol wedi cynnig cyfle delfrydol i arddangos cynhyrchion dur carbon isel arloesol, gan ein galluogi i gael adborth ar eu perfformiad mewn amgylchedd byd go iawn.

Un o nodau ein harddangoswyr oedd dangos manteision dur y DU a sut gellid defnyddio cynhyrchion dur arloesol yr unfed ganrif ar hugain i greu adeiladau cynaliadwy.

 

System adeiladu gan ddefnyddio paneli ar fframwaith dur

Gwnaethom adeiladu ein Hystafell Ddosbarth Weithredol gan ddefnyddio system arloesol o ddefnyddio paneli ar fframwaith dur. Defnyddiwyd dur trwch isel wedi’i gynhyrchu yng Nghymru, a ddatblygwyd gan gwmni bach a oedd am arddangos eu system ar adeilad go iawn.

Oherwydd natur syml eu system, roedd modd codi’r adeilad cyfan yn gyflym iawn, gan ddefnyddio ychydig iawn o ymdrech a chyfarpar. Mewn egwyddor, oherwydd y dyluniad, gellir tynnu’r adeilad i lawr ac ailddefnyddio’r paneli ar adeilad arall ar ddiwedd oes yr adeilad hwn.

Gan fod y system ar sail paneli’n ysgafn a doedd dim angen cynalyddion adeileddol ychwanegol, gwnaethom ddylunio’r adeilad i eistedd ar gyfres o sylfeini pileri sgriw dur, yn hytrach na defnyddio concrid.

Ar ddiwedd oes yr adeilad, gellir tynnu’r pileri sgriw a’u hailddefnyddio mewn adeilad arall. Oherwydd ysgafnder y paneli a’r sylfeini roedd hi’n haws eu symud, gan leihau amser, trafnidiaeth a defnydd o danwydd.

 

Waliau a tho dur yr unfed ganrif ar hugain

Mae cragen allanol yr Ystafell Ddosbarth Weithredol yn arddangos cladin arloesol cyn-fasnachol Tata, Colorcoat Prisma®. Mae eu technoleg gweithgynhyrchu tair-haen yn creu cynnyrch dur cyn-orffenedig sy’n gadarn a heb grôm mewn amrywiaeth o liwiau.

Dewison ni liwiau i gydweddu â’r dirwedd a’r adeiladau ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe. Mae’r gweddlun de yn ddu er mwyn amsugno cymaint â phosib o ynni’r haul ar gyfer ffynhonnell gwres adnewyddadwy.

Defnyddiwyd Coretinium® Tata y tu mewn i leinio’r waliau, gan greu ‘waliau syniadau’ magnetig yn y lle addysgu.

Defnyddiwyd to ffotofoltäig cyn-fasnachol wedi’i integreiddio i’r adeilad, a gynhyrchwyd gan gwmni Cymreig, BIPVCo. Mae hyn wedi’i wneud o gyfres o baneli ffotofoltäig haenen-denau, wedi’u bondio ar lenni to dur i greu gorchudd to ysgafn sy’n gallu cynhyrchu trydan ac sy’n cael effaith isel iawn ar estheteg yr adeilad.

 

Mae dur yn lleihau amser adeiladu

Gwnaeth pob un o’r systemau ar sail dur a ddefnyddiwyd gennym leihau amser adeiladu’n sylweddol. O’r sylfeini dur i’r uwch-adeiledd ar sail paneli a’r to sy’n cynhyrchu ynni, cafodd y gweithrediadau ar y safle a’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â safle adeiladu eu lleihau’n sylweddol.

Oherwydd yr elfen sylweddol o ddur yn yr adeilad, roedd yn rhwydd ei godi. O ganlyniad i hyn a diffyg y gweithgareddau ‘gwlyb’ ar y safle, roedd modd i’r gwaith adeiladu barhau ym mhob tywydd, gan ein helpu i fodloni amserlen dynn.

 

Ailddefnyddio dur

Wrth i ni ymdrechu i fodloni targedau carbon, rhaid i gynhyrchwyr dur geisio ffyrdd o leihau’n sylweddol y lefelau carbon sy’n gysylltiedig â chynhyrchu dur. Un ffordd o wneud hyn yw cynyddu cyfraddau ailddefnyddio cymaint â phosib.

Mae Tata Steel yn cyflwyno system “Tagio ac Olrhain” i osod côd QR ar eu cynhyrchion er mwyn cadw cofnod o le mae pob elfen yn cael ei defnyddio, gan sicrhau bod dur yn cael ei ddefnyddio’n llawn ar hyd ei oes gyfan.

Mae eu cynlluniau’n cynnwys creu pasbortau deunyddiau a chasglu data perfformiad defnyddio am eu holl gynhyrchion, gan ddarparu gwybodaeth lawn am darddiad cynhyrchion. Byddai hyn yn caniatáu i ragor o ddur gael ei ailddefnyddio, gan leihau’r angen am ddur newydd ac allyriadau carbon a defnydd ynni ac adnoddau wrth gynhyrchu dur.

Gall dylunwyr helpu i ailddefnyddio dur drwy ddylunio cysylltiadau bolltiog, yn hytrach na rhybedu neu weldio er enghraifft; a defnyddio darnau a chydrannau wedi’u safoni.

 

Ailgylchu dur

Mae ôl troed dur wedi’i ailgylchu tua phum gwaith yn llai nag ôl troed dur wedi’i gynhyrchu o ddeunyddiau crai.

Mae’r galw am ddur yn fyd-eang ac yn y DU yn uwch ar hyn o bryd na’r cyflenwad a geir o adeiladau wedi’u dymchwel neu o ddur sgrap. Wrth i ragor o ddur gael ei ddefnyddio, bydd y gyfran o ddur wedi’i ailgylchu, o’i gymharu â dur o ddeunyddiau crai, yn cynyddu.

 

Dur yr unfed ganrif ar hugain mewn amgylchedd adeiledig carbon isel

I gyflawni ein targedau carbon, bydd angen i ni feddwl yn ofalus am y ffordd rydym yn defnyddio adnoddau. Y peth gorau am ddur yr unfed ganrif ar hugain yw ei amlbwrpasedd, y rôl sydd ganddo mewn adeiladu oddi ar y safle, y gallu i’w ailddefnyddio a’i ailgylchu.

Mae rôl enfawr gan ddylunwyr adeiladau, contractwyr a chadwyn gyflenwi gyfan y diwydiant adeiladu wrth sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio mewn modd effeithlon. Mae dewis deunyddiau a sut mae’r deunyddiau hynny’n cael eu defnyddio’n cael effaith sylweddol ar yr allyriadau carbon sy’n cael eu cynhyrchu drwy oes gyfan adeiladau.

Mae cyfle go iawn i ddur yr unfed ganrif ar hugain arwain y ffordd wrth ddatblygu atebion carbon isel ar gyfer adeiladau. Mae ein Hystafell Ddosbarth Weithredol yn enghraifft lwyddiannus o hyn.

 

Cyfrannwyd gan Jo Clarke, Ionawr 2022.

*Jo yw Rheolwr Dylunio SPECIFIC IKC ac mae hi wedi ennill nifer o wobrau am ei harddangoswyr Adeilad Gweithredol.

Share this post