Disodli glo gyda ffynonellau tanwydd amgen nad ydynt yn danwyddau ffosil

Mae’r ymchwilydd PhD Fawaz Ojobowale yn siarad am ei amser yn SaMI yn canolbwyntio ar ddisodli glo gyda ffynonellau tanwydd amgen nad ydynt yn danwyddau ffosil.

Fel ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, treuliais i amser yn gweithio yng Nghyfleuster SINTEC SaMI gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau graddfa fach drwy ddadansoddi thermografimetrig.

Llwyddais i gael lle labordy yn SaMI â nifer o alluoedd nwy a oedd yn allweddol i’m hymchwil. Gwnaeth hyn fy ngalluogi i ymgymryd â’m hymchwil gan ganolbwyntio ar ddisodli glo gyda ffynonellau tanwydd nad ydynt yn danwyddau ffosil megis plastigion, papur a thecstilau gwastraff a fyddai fel arall wedi mynd i safleoedd tirlenwi.

Ymchwil i ddatgarboneiddio ar gyfer byd diwydiant

Roedd fy ymchwil yn brosiect diwydiannol a oedd yn canolbwyntio ar ddeunyddiau sero net. Bydd amnewidiad rhannol lle defnyddir y papur a’r plastigion gwastraff hyn yn lle rhywfaint o’r glo yn cyfrannu’n fawr at fynd i’r afael â dibyniaeth y diwydiant dur ar danwyddau ffosil.

Cwblheais fy ymchwil yn SaMI mewn cydweithrediad â’r diwydiant dur, yn benodol TATA Steel a ddarparodd y deunyddiau crai a hyfforddiant ar ddefnyddio offer arbenigol.

Effaith bosib fy ngweithgarwch ymchwil i’r diwydiant dur fydd arbedion o ran treth garbon ac yn bwysicach na hynny, lai o allyriadau i’r amgylchedd gan fod y deunyddiau arfaethedig yn rhai carbon isel.

Elwa o arbenigedd SaMI

Mae gan SaMI staff sy’n fedrus mewn amryw feysydd. Yn ystod fy amser yn SaMI, des i’n fedrus wrth ddefnyddio’r Microsgop Electronau Sganio (SEM) a thrin nwy dan gyfarwyddyd yr amryw aelodau tîm ag arbenigedd yn y meysydd hyn.

Yn benodol mwynheais i’r ffaith bod pawb mor gymwynasgar pan es i atynt gyda syniad. Gwnaethant roi fy holl syniadau ar waith gan oresgyn problemau logistaidd na fyddwn i wedi gallu eu datrys ar fy mhen fy hun.

Er enghraifft, pan oedd angen ffwrnais aerdyn, darparodd y tîm linell nwy nitrogen (sy’n cael gwared ar yr aer) a synhwyrydd ocsigen (sy’n nodi lefelau aer). Roedd y synhwyrydd ocsigen yn allweddol ar gyfer fy arbrawf crasu gan fy mod i’n gallu dweud gyda rhywfaint o hyder fod fy samplau mewn amgylchedd anadweithiol.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb fewnbwn a chymorth y tîm yn SaMI.

Er nad yw fy rôl newydd yn gysylltiedig â’r diwydiant dur, mae’n cynnwys datblygu deunyddiau newydd at ddibenion defnyddio gwahanol. Mae’r sgiliau a ddatblygais i yn SaMI wedi bod yn allweddol yn y ffordd rwy’n ymgymryd â gwaith amlddisgyblaethol.

 

Cyhoeddwyd Medi 2022

Cyfrannwyd gan Fawaz Ojobowale

Share this post