CREO UK

Mae Creo UK yn gwmni peirianneg sifil ac adeiladu cenedlaethol, wedi’i leoli yn ne Cymru, sydd ag ymroddiad i wella’r diwydiant adeiladu a ffocws ar systemau pŵer hydrogen adnewyddadwy, ac adeiladau goddefol a systemau ynni adnewyddadwy.

EIN HYMAGWEDD

Helpodd SaMI Creo UK i ddatblygu system cotio fewnol i atal britho’r dur yn eu tanciau storio hydrogen dur mawr.

Galluogodd arbenigedd SaMI mewn ymwrthedd cyrydiad dwysedd uchel, ynghyd â’i gyfleusterau unigryw, brofi haenau newydd i sicrhau diogelwch a hirhoedledd tanciau storio Creo.

Ffurfiwyd strategaeth i gynnal profion, a darparwyd samplau dur i dîm Creo i’w profi heb gaenen (fel rheolydd) a gyda chaenen.

Y DULL/CANLYNIADAU

Galluogodd dadansoddiad arbenigol gan SaMI a chyfathrebu rheolaidd â Creo ddealltwriaeth o berfformiad y cynnyrch newydd. Mae cyrchu cyfleuster, gallu ac arbenigedd SaMI yn rhoi cyfle i fusnesau bach fel Creo UK ymchwilio i’r data hwn na fyddai ar gael iddynt fel arall. Arweiniodd canlyniadau’r ymchwil at gwblhau profion Cam 1 ac adroddiad terfynol.

DATGARBONEIDDIO DIWYDIANNOL

Mae gan ddefnyddiau newydd, cynaliadwy ar gyfer hydrogen y potensial i ddatrys y diffyg adnoddau tanwydd ffosil, ac mae’n ateb posibl i’r llygredd amgylcheddol sy’n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd. Mae SaMI yn cefnogi Creo i ddatblygu tanciau storio hydrogen ymarferol y gellir eu defnyddio’n eang, ac felly’n cefnogi’r ymgyrch i economi gylchol a diwydiant dur a metelau gwyrddach.

Bu SaMI hefyd yn cefnogi Creo gyda chyflwyno grantiau Innovate UK ac mae Creo bellach yn dechrau ar brofion Cam 2, gan weithio’n agos â SaMI i ddatblygu’r ymchwil sydd eisoes wedi’i wneud.

“Ni fyddem yn petruso o gwbl wrth ddefnyddio neu gydweithio â thîm SaMI eto ar brosiectau dur neu hydrogen.”

  • Neil Jenkins BSc MRICS, Cyfarwyddwr, Creo Group
Share this post