Beth yw SaMI?

Cyfleuster mynediad agored a sefydlwyd ym Mhrifysgol Abertawe yw SaMI i gyflawni atebion ymchwil ymarferol ar gyfer y diwydiant dur a metelau.

Rydym yn cyflawni hyn drwy gyfuno arbenigedd a gallu offer SaMI.

Pam gweithio gyda SaMI?

Mae SaMI yn cyfuno arbenigedd, sgiliau a gwybodaeth ag amgylchedd addasadwy. Mae ein harbenigwyr academaidd blaenllaw a’n technolegwyr diwydiannol yn dylunio ac yn gweithredu ymchwil bwrpasol i ddarparu atebion arloesol, ymarferol. 

Partneriaeth ymchwil broffesiynol

Nod SaMI yw creu partneriaethau ymchwil unigryw gyda chynhyrchwyr, cyflenwyr a defnyddwyr dur a metelau’r DU. Byddwn yn creu perthynas weithio agos er mwyn datblygu partneriaeth gydweithredol gref drwy gyfrinachedd ac ymddiriedaeth.

Beth yw manteision partneriaeth ymchwil?

Mae ein partneriaeth ymchwil yn canolbwyntio ar gydweithio, gan ddod â rhwydwaith o arbenigwyr academaidd ac arloeswyr diwydiannol ynghyd.

Mae SaMI yn rhan o Brifysgol Abertawe ac mae ganddo rwydwaith helaeth o arbenigwyr diwydiannol ac academaidd i gefnogi a gwella ymchwil.

Gallwn helpu a chefnogi wrth ddatblygu ceisiadau am gyllid ymchwil sy’n galw am gydweithio rhwng byd diwydiant a’r brifysgol.

Gallu Ymchwil

Ffocws craidd SaMI yw cefnogi’r diwydiant dur a metelau yn yr her i ddatgarboneiddio drwy gynnyrch a phrosesau carbon is, lleihau allyriadau carbon a chreu economi gylchol.

Mae gan SaMi alluoedd ac arbenigedd dur a metelau penodol yn y canlynol:

  • Profi a gwerthuso pwrpasol mewn amgylcheddau eithafol
  • Proses arloesol ac effeithiol i Ddatblygu aloeon a chynhyrchion a phrosesau graddfa beilot i lawr y gadwyn
  • Nodweddu cynnyrch
  • Dadansoddi lludded, hollti ac anelio
  • Profi integredd cynnyrch a phrosesau deunyddiau

Oherwydd hyblygrwydd ein hymagwedd a’n gallu i greu ymchwil bwrpasol, mae gan SaMI y potensial i gefnogi sectorau diwydiannol yn fwy eang mewn ymchwil ac arloesi sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio.

Gweithio gyda ni Ein Harbenigedd

EIN GWERTHOEDD

Fel rhan o Brifysgol Abertawe, mae SaMI yn darparu amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol sy’n cynnal ein hymrwymiad i wella amrywiaeth ac yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial.

Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio ein gwybodaeth, sgiliau, creadigrwydd, uniondeb a barn i ddarparu gwasanaethau ac atebion arloesol, effeithiol ac effeithlon o ansawdd rhagorol.

Rydym yn ymfalchïo mewn gweithio mewn amgylchedd rhagweithiol, cydweithredol o gydraddoldeb, ymddiriedaeth, parch, cydweithrediad a her i ddarparu gwasanaethau sy’n ymdrechu i ragori ar anghenion a disgwyliadau ein cwsmeriaid.

Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am wrando, deall ac ymateb yn hyblyg i bartneriaid allanol a’r cyhoedd fel bod pob cyswllt rydych chi’n ei gael gyda ni yn brofiad personol a chadarnhaol.