Partneriaeth ymchwil broffesiynol

Nod SaMI yw creu partneriaethau ymchwil unigryw gyda chynhyrchwyr, cyflenwyr a defnyddwyr dur a metelau’r DU. Byddwn yn creu perthynas weithio agos er mwyn datblygu partneriaeth gydweithredol gref drwy gyfrinachedd ac ymddiriedaeth.

Beth yw manteision partneriaeth ymchwil?

Mae ein partneriaeth ymchwil yn canolbwyntio ar gydweithio, gan ddod â rhwydwaith o arbenigwyr academaidd ac arloeswyr diwydiannol ynghyd.

Mae SaMI yn rhan o Brifysgol Abertawe ac mae ganddo rwydwaith helaeth o arbenigwyr diwydiannol ac academaidd i gefnogi a gwella ymchwil.

Gallwn helpu a chefnogi wrth ddatblygu ceisiadau am gyllid ymchwil sy’n galw am gydweithio rhwng byd diwydiant a’r brifysgol.

Sut mae partneriaeth ymchwil SaMI yn gweithio?

Bydd ein tîm o ymchwilwyr arbenigol yn gweithio’n agos gyda chi i bennu’r ffordd orau o gefnogi eich ymchwil a’ch arloesi.

Dyma’r opsiynau ar gyfer partneriaeth ymchwil:

  • Prosiect ymchwil a ariennir yn uniongyrchol – rydym yn cydweithio i ddatblygu’r ymchwil y mae ei hangen arnoch
  • Prosiect a ariennir yn gyhoeddus – rydym yn cydweithio i ddatblygu cais ymchwil ar y cyd

Mae’r ffordd rydym yn sefydlu ein partneriaeth yn un hyblyg ac mae’n ystyried yr hyn sy’n gweithio orau i chi.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd am bartneriaethau ymchwil ac i holi sut gall SaMI eich helpu chi gyda’ch anghenion ymchwil ac arloesi.