Rôl ymchwil a datblygu yn y Brifysgol, gan helpu i ddatgarboneiddio diwydiant

Mae James Evans yn esbonio sut mae wrthi’n defnyddio ei brofiad o greu gemwaith moethus o’r radd flaenaf ar archeb i ddatblygu aloiau pwrpasol yn SaMI.

Rôl yn SaMI

Rwy’n gweithio yn labordy arbrofol SaMI gan weithredu’r ffwrneisi toddi metelau mewn gwactod (VIM) a’r peiriannau rholio poeth, gan greu a datblygu aloiau pwrpasol. Ar hyn o bryd ein prif ganolbwynt yw’r diwydiant dur, ond rydym hefyd yn gallu toddi metelau a deunyddiau eraill.

Fy Nghefndir

Bues i’n gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu am 18 mlynedd, gan dreulio’r rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw yn y diwydiant gemwaith lle treuliais 16 mlynedd yn optimeiddio prosesau gan greu gemwaith a wnaethpwyd â llaw ar archeb i gwsmeriaid neu’n creu modelau cwyr 3D y gellid eu troi’n gynhyrchion metel gwerthfawr. Pan ddaw gemwaith i’r meddwl, bydd pobl fel arfer yn meddwl am bethau fel modrwyon, breichledi, cadwyni gwddf a thlysau ond buom ni’n creu darnau unigryw megis gitarau 3D, octopysau â choesau sy’n symud, dolenni llawes tanc 3D – gwnes i hyd yn oed greu tlws millennium falcon.

Does dim gwahaniaeth enfawr rhwng y gwaith hwnnw a’r hyn rydw i’n ei wneud nawr.

Rydyn ni’n defnyddio’r un prosesau yma yn SaMI. Roeddwn i’n arfer toddi aur, arian a phlatinwm a byddwn i’n dal yn gorfod eu rholio a’u piclo. Roeddwn i’n arfer creu cynhyrchion o’r cam cychwynnol i’r diwedd. Roedd yn ddiwydiant gwych i weithio ynddo er mwyn ennill set dda o sgiliau a’r meddylfryd ar gyfer y prosesau a geir yn y diwydiant gweithgynhyrchu cyfan.

Mae ein galluoedd yn SaMI yn fersiwn mwy o’r hyn roeddwn i’n arfer ei wneud.

Mae’r diwydiant gemwaith yn gymysgedd go iawn o dechnolegau arloesol newydd a’r hen dechnegau a sefydlwyd gan ddefnyddio peiriannau hynafol. Mae gennym beiriant yma yn SaMI o 1946 – roedd rhai o’r peiriannau gemwaith roeddwn i’n arfer eu defnyddio yn hŷn na hynny, ond hefyd roedd gennym yr holl dechnoleg fodern megis argraffu 3D, sganwyr 3D a pheiriannau weldio â laser felly roedd modd i ni addasu pethau fel modrwy hynafol gan ddefnyddio prosesau ôl-beiriannu i gywiro ôl traul gyffredinol.

Gweithio yn SaMI

Rwy’n teimlo’n eithaf ffodus bod fy rôl yn SaMI yn cynnwys dysgu’n barhaus am y metelau rydyn ni’n eu creu a’r ymchwil academaidd sy’n gwneud hynny’n bosib.

Rydym yn toddi ac yn prosesu llenni o samplau metel ac yn eu trosglwyddo i adran nodweddu SaMI sy’n darparu dadansoddiadau i ni er mwyn i ni allu gweld a ydym wedi cyflawni’n targedau o ran cyfansoddiad terfynol y dur. I mi mae hyn yn hynod ddiddorol gan y gallwn weld pa mor dda rydym wedi’i wneud ac a ydym wedi llwyddo i gyrraedd canran yr elfennau gofynnol o fewn y cyfansoddiad dur hwnnw.

Yn achos dur, bydd y prosesau mecanyddol yn newid gan ddibynnu ar ganran yr elfennau. Mae’r holl ddeunyddiau rydych chi wedi’u cynnwys yn cynnig buddion gwahanol o ran y modd y mae’r dur yn perfformio pan gaiff cynhyrchion eu creu ar gyfer diwydiannau gwahanol megis moduro, pecynnu, trafnidiaeth neu amddiffyn.

Rydym yn addasu’r elfennau hynny er mwyn i’n cwsmeriaid gyrraedd y ganran orau bosib sy’n golygu bod gan eu dur y nodweddion y mae eu hangen arno er mwyn sicrhau’r perfformiad gorau posib yn y cynhyrchion. Rwy’n ffodus bod gennyf y cyfle i fynd yn ôl ac ail-ymweld â’r broses er mwyn mireinio a rholio mwy o ddeunyddiau i gael y cydbwysedd cywir, yn lle rhoi’r samplau yn ôl i gwsmeriaid ar y cam hwnnw.

Rwy’n credu mai dyma’r gwahaniaeth rhwng gweithio mewn prifysgol yn lle ym myd diwydiant. Mae’n cyd-fynd ag un o egwyddorion craidd y Brifysgol, sef ein bod ‘yn Ofalgar’. Ac mae hynny’n wir. Os ydych chi’n ymgymryd â gwaith arloesol, mae eisiau i chi ddeall pam nad yw rhywbeth yn gweithio, ac rydym yn ceisio gwneud hynny.

Mae ymagwedd gydweithredol go iawn at ddod o hyd i’r atebion. Rydym am ddeall pam a sicrhau llwyddiant yr atebion. Mae’r diwylliant, yr agwedd a’r awydd i ddatblygu gwaith ar draws SaMI yn gadarnhaol. Deall pam nad yw rhywbeth yn gweithio ac y gallwch wneud newidiadau i’w wella.

Dyfodol yn SaMI

Rydw i’n gwella fy ngwybodaeth fel gweithredwr trwy’r amser, gan edrych ar sut mae’r elfennau’n ymateb ac rydw i’n datblygu dealltwriaeth well o brosesau dadansoddi nodweddion ynghyd â nodweddion mecanyddol y deunyddiau. Rydym yn mireinio’n prosesau’n seiliedig ar yr adborth a dderbyniwn gan yr adrannau eraill, gan ganiatáu i ni ddatrys problemau’n gyflymach a gwella’r hyn rydym ni’n ei wneud.

Er i mi fwynhau gweithio yn y diwydiant gemwaith, roeddwn i am gael newid. Mae’r hyn rydym yn ei wneud yma yn waith pwysig. Rydym yn ceisio datgarboneiddio diwydiant sy’n achosi llygredd mawr ac rydym am wneud hynny er budd y blaned. Ac roedd hynny’n ddeniadol iawn imi.

Roeddwn i bob amser yn hoff o’r syniad o weithio yn y byd academaidd ac mae’r swydd hon yn SaMI yn gyfle da imi ym maes ymchwil a datblygu ar gyfer rhywbeth sydd yn fy marn i o bwys mawr.

Mae’n amlwg iawn ein bod ar hyn o bryd yn dinistrio’n planed, a hynny ar raddfa y tu hwnt i adfer o bosib – ac mae’r ganran o allyriadau carbon sy’n deillio o’r diwydiant dur yn cyfrannu’n helaeth at hynny.

Mae gwybod fy mod i’n chwarae rhan mewn peiriant pwysig iawn o bwys mawr i mi, yn enwedig wrth imi heneiddio ac rwy’n teimlo bod dyletswydd ar bob un ohonom i chwarae ein rhan wrth ddiogelu’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Cyhoeddwyd ym mis Medi 2022

Cyfrannwyd gan James Evans, Cynorthwy-ydd Cymorth Technoleg

Share this post