Ymchwil datgarboneiddio drawsnewidiol yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines

Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o weithgarwch ymchwil cydweithredol ym Mhrifysgol Abertawe sydd wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch.

 

Dyfernir y wobr am ymchwil i ddatgarboneiddio dan arweinyddiaeth yr Athro Dave Worsley yn Abertawe. Mae’r wobr yn cydnabod y gwaith trawsnewidiol mewn technoleg celloedd solar a dur integredig ar gyfer adeiladu adeiladau carbon isel, storio gwres ac ynni adnewyddadwy.

Darllenwch y stori lawn o Brifysgol Abertawe yma.

Share this post