Sylfeini’r diwydiant dur ym Mhrifysgol Abertawe

Lleolir SaMI ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn aelod hirdymor o’r gymuned ddur. Mae’r sefydliad yn chwarae rôl allweddol wrth arloesi ym maes dur, drwy gydweithredu’n agos â’r diwydiant.

 

Sefydlwyd y Brifysgol i gefnogi diwydiant yn rhanbarth de Cymru ac mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio gyda dur ers hynny.

Mae’r rhanbarth yn enwog am ei arbenigedd ym maes dur a metelau. Mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer SaMI oherwydd ein bod yn helpu byd diwydiant i arloesi ym maes dur a newid ar gyfer y dyfodol.

 

Dyfodol dur

Dur yw’r metel mwyaf cyffredin yn y byd, a’r deunydd sy’n cael ei ailgylchu fwyaf. Mae bron popeth yr ydym yn ei ddefnyddio naill ai’n ddur neu wedi’i greu gan gynnwys dur, ac yn aml y ddau.

Yn aml, bydd y diwydiant dur yn cael ei gam-ddeall yn ddiwydiant hen ffasiwn. Mewn gwirionedd, mae’n rhan angenrheidiol o’r dyfodol.

Os ydym am ddyfodol gwyrddach, glanach, bydd angen dur arnom.

 

Arloesedd dur ym Mhrifysgol Abertawe

Mae dur yn parhau. Fel deunydd sy’n cael ei ailgylchu fwyaf yn y byd, gellir ailgylchu dur yn annherfynol heb golli ansawdd. Yn aml iawn, nid oes angen ailgylchu llawer o nwyddau dur. Hyd oes nwydd dur yw 40 mlynedd ar gyfartaledd: bydd can diodydd yn para am gyfnod llai, ond bydd pontydd yn para am gyfnod hwy.

Mae Prifysgol Abertawe yn cymryd rhan fawr mewn arloesedd dur. Mae timau’n creu caenau newydd er mwyn ehangu hyd oes dur ymhellach byth ac yn datblygu dur newydd yr un mor gryf â’r opsiynau presennol ond yn ysgafnach.

 

Arloesedd dur ar gyfer byd diwydiant

Defnyddir tua 3500 o raddfeydd dur heddiw, ac nid oedd 75% ohonynt yn bodoli 20 mlynedd yn ôl.

Mae prosiect SPECIFIC Prifysgol Abertawe wedi dylunio ac adeiladu adeiladau sy’n creu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni eu hunain.

Mae arloesedd dur yn chwarae rôl allweddol yn yr ‘Adeiladau Actif’ arloesol hyn. Maent wedi’u hadeiladu â dur newydd wedi’i ddatblygu gan Tata Steel gyda thyllau bach iawn ynddo. Mae’r haul yn twymo’r dur a haen o awyr o’i gwmpas, sy’n cael ei thynnu i mewn i’r adeilad drwy’r tyllau, gan ddarparu gwres cynaliadwy.

Mae mynd i’r afael ag ynni mewn adeiladau yn hanfodol er mwyn datgarboneiddio. Ar y cyd â thechnolegau eraill, megis paneli a batris solar, y canlyniad yw adeiladau sy’n gallu bod ag ynni dros ben. Mae’r ynni sy’n weddill yn gallu pweru cerbydau trydanol a chyflenwi adeiladau yn y gymdogaeth.

 

Datgarboneiddio dur

Mae her wirioneddol i’r diwydiant dur fynd i’r afael â datgarboneiddio. Mae creu dur yn dal i fod yn fusnes sy’n ddwys o ran carbon, ond mae’r diwydiant yn gwella’n gyflym.

Yn SaMI, rydym yn canolbwyntio ar arloesedd dur drwy gyflenwi atebion ymarferol ar gyfer y diwydiant. Rydym yn gweithio gyda busnesau dur yn y DU i ddatgarboneiddio gwaith creu haearn wrth gynnal effeithlonrwydd y broses.

Ein nod yw trawsnewid y diwydiant o ddefnyddio glo fel prif ffynhonnell ynni, i gymysgedd o ynni adnewyddadwy, hydrogen a deunyddiau gwastraff. Rydym yn helpu’r diwydiant dur i bontio tuag at ddatgarboneiddio.

Er mwyn mynd i’r afael ag effaith amgylcheddol dur, mae angen inni arloesi nwyddau yn ogystal â’r broses weithgynhyrchu. Mae tyrbinau gwynt yn 80% dur. Mae rheiliau ar gyfer teithio ar drên yn 100% dur. Mae angen dur trydanol arbenigol ar gerbydau trydanol yn eu moduron a’u generaduron.

 

Gweledigaeth ar gyfer dur yn yr 21ain ganrif

Mae’r prosiect SUSTAIN ym Mhrifysgol Abertawe yn dod â’r holl ddiwydiant dur yn y DU at ei gilydd.

Mae SaMI yn rhannu gweledigaeth â SUSTAIN i wneud dur yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Dur sy’n ymatebol i gwsmeriaid. Dur wedi’i lywio gan ddata. Dur sy’n ddi-garbon.

Mae creu dur heddiw yn cynnwys labordai a phrofi â laser cymaint â ffwrneisi chwyth a simnai.  Gyda thechnoleg uwch a sgiliau uwch, diwydiant ar gyfer yr 21ain ganrif yw’r diwydiant dur.

Mae ein perthynas â’r diwydiant dur sydd wedi para am 100 mlynedd yn parhau wrth inni weithio ar y cyd i drosi’r diwydiant dur i fod yn ddiwydiant y dyfodol.

 

Cyfrannwyd gan Kevin Sullivan, Mawrth 2021.

Mae Kevin Sullivan yn Uwch Swyddog y Wasg i Brifysgol Abertawe.

Share this post