Gwrthrychau COP26: Lamp Glöwr Barrie

I nodi #COP26, gofynnwyd i staff a myfyrwyr ddewis gwrthrych a oedd yn cynrychioli ein gwaith ymchwil dros weithredu ar yr hinsawdd.

 

Dewisodd Rheolwr Gweithrediadau a Masnachol SAMi Dr Barrie Goode lamp glöwr. Mae’r lamp yn ein hatgoffa am ddiwydiant o’r gorffennol a sut mae wedi newid i’r presennol.Yn bwysicach, sut beth fydd y dyfodol gydag ymchwil ac arloesi ynghylch Dur yr 21ain Ganrif sy’n allweddol i gyflawni cymdeithas sero carbon net.

Rydym yn gweithio gyda’r diwydiant dur i ddatblygu atebion gwyrddach i wella’r ffordd y caiff dur ei greu, ei ddefnyddio a’i ailgylchu.

Er mwyn creu cymdeithas sero carbon net, bydd angen Dur yr 21ain Ganrif arnom.

 

Share this post