Arwain y newid i Nghmyru sero-net

Bydd cyfleuster newydd gwerth £20 miliwn yn adeiladu ar lwyddiant SaMI ac yn helpu i ddatblygu economi werdd a Chymru sero-net

Mae’n bleser gan SaMI gyhoeddi ein bod yn lansio cyfleuster newydd gwerth £20 miliwn i helpu diwydiannau yn y rhanbarth i greu dyfodol carbon isel yng Nghymru sero-net.

 

Datrysiadau ymarferol ar gyfer diwydiant

Bydd y cyfleuster yn adeiladu ar gryfder ac arbenigedd SaMi mewn arloesi ym maes dur a metelau. Bydd ymchwilwyr academaidd, y llywodraeth a diwydiant yn cydweithredu i ddarparu atebion arloesol i ddatgarboneiddio’r sector dur a metelau a’r gadwyn gyflenwi.

Mae newid yn llwyddiannus i ddyfodol sero-net yn hanfodol o safbwynt y sector gweithgynhyrchu. Bydd yn diogelu’r amgylchedd, yn ogystal â datblygu’r diwydiannau a’r gweithlu sydd mor allweddol i economi de Cymru.

 

Cyfleuster mynediad agored

Mae’r cyfleuster yn cynnig potensial anferth i arloesi er mwyn atgyfnerthu gweithgarwch datgarboneiddio rhanbarthol ochr yn ochr â chyfleoedd busnes, buddsoddi a swyddi newydd ar gyfer economi werdd yn y dyfodol.

Enw’r cyfleuster yw SWITCH (South Wales Industrial Transition from Carbon Hub). Mae’n rhan o’r rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel, a arweinir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Bydd y rhaglen yn helpu i sefydlu’r rhanbarth ymysg y ceffylau blaen o ran twf carbon isel a’r economi werdd.

Yn agos at waith dur a gorsaf drenau Port Talbot, bydd SWITCH yn gyfleuster mynediad agored. Bydd yn darparu safle ac offer pwrpasol lle gall Prifysgol Abertawe weithio gyda’r diwydiant dur a metelau at ddibenion:

  • Datblygu prosesau gweithgynhyrchu dur a metelau i leihau allyriadau carbon
  • Galluogi deunyddiau a sgil-gynhyrchion gweithgynhyrchu i gael eu hadfeddiannu a’u hailgylchu
  • Creu deunyddiau uwch er mwyn i’r sectorau adeiladu, trafnidiaeth a phecynnu ategu atebion net-sero ar ran ein cymdeithas

 

Diwydiant yn cydweithredu er mwyn Cymru sero-net

Mae’r diwydiant dur a metelau wrth wraidd cymuned de Cymru o hyd.

Drwy ategu’r broses o newid y diwydiant i fod yn garbon sero-net, bydd gan SWITCH rôl allweddol o ran twf economaidd cynhwysol, gan alluogi diwydiant yng Nghymru i barhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang a sicrhau dyfodol hirdymor, cynaliadwy i’r rhanbarth.

 

Meddai Chris Williams, pennaeth datgarboneiddio diwydiannol ar ran Diwydiant Cymru, sy’n arwain Clwstwr Diwydiannol De Cymru:

“Mae dur a metelau wrth wraidd de Cymru. Mae gennym y bobl, yr arbenigedd a’r perthnasoedd cydweithredol agos i arwain y ffordd i ddyfodol carbon sero-net ar gyfer diwydiannau gweithgynhyrchu ledled y byd.

Mae gan ddiwydiant rôl allweddol wrth sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. Yng Nghymru, rydym wedi meithrin ymagwedd gydweithredol gref at arloesi. Bydd canolfan SWITCH yn adeiladu ar yr ymagwedd hon, gan ddod ag arbenigedd ynghyd o ddiwydiant, y byd academaidd a llywodraeth i ddarparu atebion ymarferol at ddibenion datgarboneiddio.

Bydd canolfan SWITCH yn atgyfnerthu ein hymdrechion amgylcheddol yng Nghymru, drwy ddatblygu ffyrdd cynaliadwy a chystadleuol o weithgynhyrchu.”

 

Datblygu doniau a gweithlu Cymru

Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“O ran Prifysgol Abertawe, mae partneriaethau rhanbarthol llwyddiannus yn bwysig wrth helpu i ddatblygu pobl a magu sgiliau, yn ogystal ag ymchwil flaengar. Bydd menter SWITCH yn adeiladu ar ein hanes o gydweithio’n bwrpasol â diwydiant sydd wedi para am gan mlynedd, er mwyn mynd i’r afael â heriau ein hoes ac arloesi o ddifrif yng Nghymru.

Bydd canolfan newydd SWITCH yn ehangu gallu ymchwil ein Prifysgol i weithio ochr yn ochr â diwydiant a llywodraeth, er mwyn ategu ein huchelgais cyffredin i sicrhau Cymru sero-net.”

 

Cyfrannwyd gan Cat Wilkins, Tachwedd 2021.

Mae Cat Wilkins yn rheolwr cyfathrebu marchnata ar gyfer y Sefydliad Dur a Metelau ym Mhrifysgol Abertawe.

Share this post