Wall Colmonoy Ltd.

Mae Wall Colmonoy Ltd yn gwmni sy’n gweithgynhyrchu aloiau arbenigol ac unigryw er mwyn datrys problemau cyrydu a threulio ar gyfer sectorau diwydiannol trwm megis cynhyrchu dur, pŵer a bwyd. Rhaid i WCL ddatblygu ei aloiau a’i wybodaeth dechnegol er mwyn cyd-fynd â gofynion ei bartneriaid diwydiannol a deddfwriaeth sy’n newid.

Roedd angen i WCL nodweddu aloiau’n effeithiol at ddefnydd gorsafoedd cynhyrchu pŵer sy’n troi gwastraff yn ynni (W2E) lle mae tymereddau uchel ac amodau nwyon cyrydol uchel yn gofyn am berfformiad aloiau premiwm at ddibenion caenau sy’n cynnig diogelwch rhag cyrydu.

Ein hymagwedd

Drwy gyfuno dealltwriaeth drylwyr rheolwr y cyfleuster, Mike Dowd, o faes ymwrthedd dwysedd uchel i gyrydu â chyfleuster Sintec ei hun, mae modd creu amodau profi lle mae’r amgylchedd yn gyrydol iawn. Mae hyn yn gwneud galluoedd y Sefydliad Dur a Metelau (SaMI) yn unigryw.

Gwnaeth Mike brofi aloi newydd WCL sy’n gallu gwrthsefyll cyrydu, Colmonoy® 686, a gwahaniaethu’n effeithiol rhyngddo a pherfformiad deunyddiau tebyg i Inconel 625 er mwyn nodi gwelliant diogelwch posib.

Gan fabwysiadu ymagwedd fesul cam at brofi mewn amgylchedd cyrydol cynyddol, gweithiodd Mike gyda WCL i nodi’r pwynt lle mae perfformiad yn amrywio.

Y dull/canlyniadau

Bu Mike Dowd yn arwain y broses o ddatblygu’r profion yn ein cyfleuster Sintec er mwyn nodweddu perfformiad aloiau ar dymereddau uchel a darparu’r wybodaeth empirig roedd ei hangen ar WCL.
O ganlyniad i ddealltwriaeth Mike o faes ymwrthedd dwysedd uchel i gyrydu, llwyddwyd i fabwysiadu amrywiaeth o feini prawf profi, er enghraifft y dull ‘Green Death’, sef amrywiad ar brawf mwy safonol ASTM G48.
Gall WCL bellach wreiddio’r wybodaeth hon yn nhaflen data technegol y cwmni a fydd yn tanategu’r broses o roi’r cynnyrch newydd ar waith yn y sector W2E yn fyd-eang.

Y buddion i’r cwsmer

Dim ond drwy weithio’n agos gyda SaMI y byddai’r profion hyn yn bosib i’r cwsmer, WCL. Mae’r cynnydd tuag at brofion mwy dwys nag erioed a’r adolygiadau fesul cam sy’n ofynnol yn hanfodol er mwyn deall perfformiad y cynnyrch.

Mae cael mynediad at y cyfleuster a’r arbenigwyr yn SaMI yn rhoi’r cyfle i fusnesau bach a chanolig megis WCL ymchwilio i’r data hwn. Ni fyddai’r gallu a’r arbenigedd hwn ar gael i gwmnïau o’r fath fel arall.

Bydd y perfformiad gwell o ran cyrydu a’r dystiolaeth a grëir gan SaMI yn helpu WCL i alluogi ei gwsmeriaid i gynnal gorsafoedd W2E am gyfnodau o hyd at bum mlynedd heb gau’n sylweddol o ganlyniad i osod pibelli tân newydd. Dyma gynnydd ar y sefyllfa bresennol, sef rhwng dwy a thair blynedd, gan wella cynhyrchiant a chost-effeithiolrwydd. Mae hyn yn caniatáu mwy o amser gweithredu yn ogystal â thymereddau uwch.

Datgarboneiddio diwydiannol

Mae’r defnydd o dyrbinau nwy gwasgedd uwch yn cadw rhagor o ynni o’r gwastraff llosg ac yn sgîl hynny’n lleihau allyriadau carbon o’r broses ddiwydiannol.
Felly, mae ymchwil WCL yn SaMI yn gam bach ond pwysig i’r sector wrth iddo ddatgarboneiddio at ddibenion dyfodol sero net.

Diolch i Chris Weirman o Wall Colmonoy Ltd am ei gyfraniad.

Share this post