British Steel

Mae British Steel yn fusnes cynhyrchion dur hir sy’n cynhyrchu dur a ddefnyddir at ddibenion adeiladu a defnyddiau rheilffyrdd perfformiad uchel yn ogystal ag amrywiaeth o broffiliau dur pwrpasol i ateb gofynion cwsmeriaid.

Mae’r broses cynhyrchu dur yn dechrau yn y ffwrnais chwyth lle defnyddir mwyn haearn er mwyn cynhyrchu haearn bwrw, sy’n cael ei droi’n ddur yn sgîl hynny.

Er mwyn bodloni prosesau ffwrnais chwyth cynyddol drwm o ran cynhyrchiant a lleihau’r defnydd o gyfryngau, cysylltodd British Steel â’r Sefydliad Dur a Metelau (SaMI) er mwyn helpu i ddylunio gweithdrefn brofi newydd i efelychu ffwrnais chwyth er mwyn penderfynu ar ansawdd llwythi mewn modd cywir, rhagfynegol a mwy perthnasol i weithrediad y cwmni na safonau profion presennol.

Ein hymagwedd

Anfonodd British Steel sawl sampl sinter arferol ac arbennig at Mike Dowd er mwyn profi rig lleihau SaMI. Yn dilyn gwersi’r profion cychwynnol hyn, gweithiodd Mike yn agos gyda British Steel i ddatblygu rhaglen brofi ddiwygiedig er mwyn ail-greu’n well yr amodau lleihau mewn ymarfer ffwrnais chwyth fodern gyda chyfraddau chwistrellu glo a nwy uchel.

Yn ogystal â sinter a phelennau a ddefnyddir yn y broses cynhyrchu dur, gellir defnyddio rig lleihau SaMI i brofi deunyddiau crai newydd, megis brics glo polymer cyfansawdd sydd â lefelau llawer is o CO2 ynddynt.

Y dull/canlyniadau

O ganlyniad i gryn arbenigedd a phrofiad rheolwr y cyfleuster, Mike Dowd, wrth ddefnyddio’r offer profion lleihau, llwyddodd i ddarparu dadansoddiad llawn o’r canlyniadau gyda’r cromliniau lleihau fesul munud hefyd. Mae darparu’r lefel hon o ddadansoddi’n unigryw ac yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i’r cwsmer, sef British Steel.

Gan fod safon gweithio a dadansoddi Mike o’r radd flaenaf, gellir cael gafael ar lefel o fanylder na fyddai ar gael i British Steel a’r gymuned cynhyrchu dur ehangach fel arall.

Y buddion i’r cwsmer

Buddsoddodd SaMI mewn addasiadau i’r rig lleihau er mwyn darparu hyblygrwydd llawn fel y gall y cwsmer brofi amgylchiadau posib yn y dyfodol gyda nwyon sy’n cynnwys lefelau uwch o H2.

Drwy’r gwaith dadansoddi a wnaed gan ddefnyddio rig prawf lleihau SaMI, gall British Steel ystyried sut gellir efelychu amodau ffwrnais chwyth mewn labordy wrth i’r cwmni ymdrechu i leihau ei allyriadau carbon. Mae hyn yn hanfodol i her y cwmni o ddatgarboneiddio ei gynhyrchion a’i brosesau wrth i’r diwydiant dur weithio tuag at brosesau gweithgynhyrchu sero net.

Datgarboneiddio diwydiannol

Mae’r diwydiant dur yn un o’r tri phrif gyfrannwr at allyriadau CO2, ac mae cysylltiad uniongyrchol rhwng mwy na 70% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y diwydiant dur a’r defnydd o lo naill ai fel cyfrwng lleihau yn y ffwrnais chwyth neu’n uniongyrchol fel tanwydd.

Bydd deall a gweithredu gweithdrefnau profi ffwrneisi chwyth yn well mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol megis British Steel yn darparu llwybr sydd eisoes wedi cael ei ddilysu’n ddiwydiannol i ymchwilio i ddewisiadau gwyrdd eraill.

Diolch i Peter Warren o British Steel am ei gyfraniad

Share this post