Efelychu amgylcheddau eithafol ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol

Mae Mike Dowd yn cyflwyno SINTEC, sef gallu unigryw’r  Sefydliad Dur a Metelau, ac yn esbonio sut mae ei wybodaeth a’i arbenigedd ym maes datgarboneiddior diwydiannol yn mynd i’r afael ag allyriadau carbon wrth gynhyrchu dur.

 

Efelychu proses ddiwydiannol ar gyfer sero net

Mae SINTEC yn gyfleuster r unigryw yn fyd-eang sy’n golygu “efelychu a phrofi integredd mewn amodau eithafol”.

Mae SINTEC yn galluogi ymchwilwyr i efelychu prosesau a phrofi integredd asedau deunyddiau ar dymereddau uchel iawn mewn amgylcheddau nwyon adweithiol megis hydrogen, carbon monocsid a sylffwr deuocsid.

Drwy efelychu prosesau diwydiannol megis cynhyrchu dur ar raddfa labordy, gallwn ymchwilio i dechnolegau arloesol i fynd i’r afael â datgarboneiddio diwydiannol a gweithgynhyrchu a deunyddiau sero net.

 

Profiad o ddatgarboneiddio diwydiannol

Dechreuais i fy ngyrfa fel peiriannydd awyrofod. Yn ystod fy ngradd PhD, gweithiais i gyda Rolls-Royce plc. Bues i’n asesu gallu deunyddiau i wrthsefyll amodau gweithio garw peiriannau awyrennau sifil wrth hedfan. Bues i’n efelychu amgylcheddau gwasanaeth peiriannau jet ar raddfa’r labordy.

Adeg hynny, roedd y diwydiant awyrennau eisoes yn wynebu pwysau sylweddol i leihau allyriadau carbon.

Mae yna her economaidd ynghyd ag amgylcheddol i’r diwydiant awyrennau. Mae cost tanwydd i gwmnïau awyrennau yn enfawr. Rwy’n cofio aros i fynd ar awyren a oedd yn teithio o faes awyr Phu Quoc yn Fiet-nam i Heathrow yn Llundain, sef taith 13 awr. Clywais i sgwrs rhwng y peilot a rhai o’r teithwyr. Dywedodd y peilot ei fod wedi derbyn y bil tanwydd ar gyfer y daith, a oedd yn 90 mil o ddoleri.

 

SINTEC ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol

Pan ymunais i â SaMI, defnyddiais i fy ngwybodaeth a’m profiad yn y sector awyrennau at ddiben datgarboneiddio dur a metelau. Mae’r diwydiannau hyn yn wynebau heriau tebyg. Yn debyg i’r diwydiant awyrennau, mae prosesau cynhyrchu dur yn defnyddio llawer o garbon a chyfalaf.  Mae’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio’n cynrychioli’r rhan fwyaf o’r costau gweithredu yn y diwydiant cynhyrchu dur.

Mae’r diwydiant cynhyrchu dur yn gyfrifol am tua 8% o allyriadau carbon deuocsid y byd. Mae gweithgynhyrchu gan ddefnyddio’r ffwrnais chwyth integredig yn cyfrannu at gyfran fawr o’r allyriadau hyn.

Os ydym ni am gyflawni Cymru sero net, mae lleihau allyriadau carbon y diwydiant cynhyrchudur yn hanfodol.

Drwy gynnal arbrofion sy’n efelychu prosesau cynhyrchu dur yn y labordy, gallwn asesu technolegau amgen ac ystyried lleihau allyriadau carbon.

 

Efelychu amgylcheddau eithafol wrth gynhyrchu dur

Un o’r pethau rydym yn eu gwneud yn SINTEC yw ystyried sut gallwn ni wella perfformiad y ffwrnais chwyth gan ddefnyddio ein peiriant profi gallu i leihau allyriadau. Mae peiriant lleihau SINTEC yn rhoi cyfle unigryw i ni gael cipolwg rhithwir y tu mewn i ffwrnais chwyth go iawn, gan efelychu’r elfen gwneud haearn yn y broses cynhyrchu dur.

Mae’r ymchwil hon wedi dangos ein bod yn gallu lleihau amserau adweithio ar gyfer y deunyddiau crai sy’n bwydo’r ffwrnais chwyth gan arwain at lai o allyriadau carbon.

Rydym hefyd yn defnyddio SINTEC i ymchwilio i gyfleoedd newid tanwydd, gan ddefnyddio adnoddau tanwydd â llai o garbon neu adnoddau tanwydd heb garbon wrth gynhyrchu dur i leihau allyriadau carbon. Er enghraifft, gan ddefnyddio cyfarpar efelychu prosesau diwydiannol SINTEC rydym yn ystyried cyflwyno hydrogen neu fiomàs i’r broses cynhyrchu dur.

 

Cyfleuster SINTEC a Chymru sero net

Mae gan gyfleuster SINTEC yn SaMI botensial enfawr i helpu’r diwydiant i fynd i’r afael â her datgarboneiddio diwydiannol.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant dur ynghyd â chwmnïau cadwyni cyflenwi. Rydym yn cydweithio’n agos i ddod o hyd i atebion ymarferol i’r heriau mwyaf y mae’r diwydiant yn eu hwynebu.

Mae’r galluoedd sydd gennym yn SaMI gyda’n cyfleuster SINTEC yn ein galluogi i ganolbwyntio ar helpu’r diwydiant dur i drawsnewid wrth i ni weithio tuag at wneud yr hyn y gallwn i gyrraedd Cymru sero net.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am gyfleuster SINTEC yn SaMI.

 

Cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022.

Mae Mike Dowd yn gymrawd trosglwyddo technoleg ar gyfer y Sefydliad Dur a Metelau ym Mhrifysgol Abertawe.

Share this post