Ein Cenhadaeth

Meithrin partneriaethau ymchwil ac arloesi cryf ar y cyd rhwng y byd academaidd a phartneriaid diwydiannol ar draws y diwydiant dur a metelau.

Ein hamcanion

Y nod yw datblygu partneriaethau ymchwil ac arloesi gyda chwmnïau yn y diwydiant dur a metelau i gyflawni atebion ymarferol. 

Partneriaid Cyllido a Diwydiannol

Sefydlwyd y Sefydliad Dur a metelau (SaMI) ym Mhrifysgol Abertawe gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a rhoddwyd cyfarpar gan Tata Steel UK.

Dyma bartneriaid diwydiannol SaMi:

Ein Gwerthoedd

Mae SaMI yn darparu amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol yma ym Mhrifysgol Abertawe sy’n cynnal ein hymrwymiad i wella amrywiaeth ac yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial.

Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau, ein creadigrwydd, ein huniondeb a’n doethineb i ddarparu gwasanaethau ac atebion arloesol, effeithiol ac effeithlon o safon ardderchog.

Rydym yn ymfalchïo mewn amgylchedd gweithio rhagweithiol a chydweithredol o gydraddoldeb, ymddiriedaeth, parch, cydweithio a her, i ddarparu gwasanaethau sy’n ceisio rhagori ar anghenion a disgwyliadau ein cwsmeriaid.

Rydym yn derbyn cyfrifoldeb am wrando ar ein partneriaid allanol a’r cyhoedd, eu deall ac ymateb yn hyblyg iddynt, fel bod pob cysylltiad rhyngoch chi a ni yn brofiad personol a chadarnhaol.